Cafodd Jack ei eni a'i fagu yng Nghei Connah. Aeth i Ysgol Uwchradd Cei Connah a chwblhau prentisiaeth mewn peirianneg ac enillodd radd gan Brifysgol Glyndŵr Wrecsam mewn Peirianneg Ddiwydiannol ar ôl dilyn cwrs yn ystod dyddiau astudio wrth weithio mewn diwydiant.

Bu Jack yn gweithio i gyflogwr lleol, DRB Group, gan weithio ar wahanol brosiectau gwella ar gyfer busnes ledled Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr. Yn ddiweddarach, daeth yn Beiriannydd Ymchwil a Datblygu yn Henrob, sydd wedi'i leoli ar ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Y tu allan i'r gwaith, roedd Jack yn bêl-droediwr brwd ac yn chwarae i Gei Connah cyn i anaf atal ei yrfa. Mae'n parhau i gefnogi pêl-droed lleol ar lawr gwlad yn ardal Alun a Glannau Dyfrdwy.

Ers cael ei ethol mae Jack wedi bod yn eiriolwr brwd ar ran diwydiant lleol ac mae wedi gweithio'n galed gyda chyflogwyr ac undebau llafur i sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Mae Jack yn aelod balch o'r Undeb Unite a'r Undeb Community.

Mae Jack hefyd wedi ymgyrchu i drechu trais yn y cartref ac yn benodol, mae'n Llysgennad ar gyfer ymgyrch y Rhuban Gwyn.

Mae ei waith arall wedi cynnwys gweithio tuag at sefydlu banc cymunedol cyntaf Cymru yn ei etholaeth, mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal y rhai sy'n cysgu ar y stryd rhag gallu cael llety, hyrwyddo'r diwydiant bragu a thafarndai lleol (mae Jack yn Gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Gwrw a Thafarndai), ymgyrchu i sicrhau bod cleifion yn cael y cyffuriau diweddaraf ac er mwyn cael mwy o ddarpariaeth gofal iechyd yng Nglannau Dyfrdwy a gweithio gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod coridor Sir y Fflint wrth galon prosiect Metro Gogledd Cymru.

Mae Jack wedi siarad yn agored am ei frwydrau personol ar ôl colli ei dad, gan ddisgrifio ei broblemau ei hun gydag iselder a PTSD. Mae Jack wedi defnyddio ei brofiad ei hun i hyrwyddo gwell darpariaeth a chymorth iechyd meddwl yn y Senedd.

Cafodd ei ysbrydoli gan araith roddodd Carl Sargeant mewn digwyddiad lleol ychydig cyn iddo farw, ble defnyddiodd y geiriau "edrych ar ôl ein gilydd" i gloi'r araith.

Mae Jack wedi hyrwyddo "gwleidyddiaeth fwy caredig" fel ffordd o adeiladu cymunedau caredig. Mae'n awyddus i gael gwared ar ddadleuon gwenwynig ac ymosodiadau personol o'r drafodaeth wleidyddol, ac mae wedi gweithio gyda gwahanol bleidiau i gyflawni ei nod. Os ydym am gyflawni ein nod o gael gwell Cymru, gwell Teyrnas Unedig a gwell byd, mae Jack yn credu'n gryf bod yn rhaid i ni ymddwyn mewn ffordd sy'n dangos ein bod yn ymdeimlo â phobl eraill.